⏪ Blaenorol Nesaf ⏩


Mae awtomeiddio yn gysyniad pwysig iawn mewn ymchwil cyfrifiadurol am nifer o rhesymau:

  1. Mae awtomeiddio llifoedd gwaith yn osgoi camgymeriadau dynol.
  2. Mae awtomeiddio llifoedd gwaith yn helpu ailadrodd llifoedd gwaith, ac felly ailgynhyrchu ymchwil.
  3. Rhan bwysig o awtomeiddio gwaith yw deall eich methodoleg yn ddigon da er mwyn ysgrifennu’r gorchmynion awtomeiddio; felly mae’n cynyddu dealltwriaeth yn y fethodoleg.
  4. Mae’r gorchmynion awtomeiddio, os yw wedi’u hysgrifennu’n dda, yn gallu ymddwyn fel y modd o gyfathrebu’r fethodoleg; yn cynyddu cywirdeb y cyfathrebiad.
  5. Mae awtomeiddio gwaith yn cyflymu amser prosesu’r gwaith.

Edrychwn ar sawl ffordd o awtomeiddio gwaith yn y cwrs yma:

  • Awtomeiddio prosesau sy’n ymwneud a ffeiliau a ffolderau ar y cyfrifiadur: defnyddiwn y Command Line ar systemau -nix, a’r Command Prompt ar systemau Windows.
  • Awtomeiddio methodoleg a thriniaeth data: defnyddio iaith rhaglenni. Edrychwn ar Python yn y cwrs yma.
  • Awtomeiddio cyfathrebu canlyniadau trwy allbynnu canlyniadau yn syth i’r ddogfen ysgrifenedig.
⏪ Blaenorol Nesaf ⏩