⏪ Blaenorol Nesaf ⏩


Mae systemau Windows yn defnyddio’r ‘command prompt’ i siarad i’r cyfrifiadur. I fedru gwneud hwn, agorwn y command prompt neu Anaconda prompt. Dyle fe edrych rhywbeth fel hyn (bydd lliwiau ac efallai ysgrifen wahanol gyda chi):

Ar y llinell lle welwn y cyrchwr (cursor), gwelwn ni rhyw ysgrifen (fel arfer enw ein cyfrifiadur a lle ar y cyfrifiadur ydyn ni ar hyn o bryd), a’r diweddglo >. Dyma le allwn ni teipio gorchmynion i’r cyfrifiadur. (Yn y tiwtorial yma defnyddiwn y symbol $ yn lle, mae unrhyw god sy’n dilyn y symbol $ yn cynrychioli cod rydym ni’n ysgrifennu a theipio. Mae unrhyw tecst nad yw’n dilyn $ yn cynrychioli allbwn y cyfrifiadur.)

Y fath o orchmynion edrychwn arnynt yn y tiwtorial yma yw triniaeth ffolderi a ffeiliau. Hynny yw, awtomeiddio’r pethau byddwch yn gwneud gyda GUI yn ‘Windows Explorer’ neu ‘File Explorer’; creu ffolderi newydd, copïo ffeiliau, ail-enwi a symud ffeiliau, ac yn y blaen.

I redeg gorchymyn:

  • Teipwich y gorchymyn
  • Gwasgwch ‘Enter’

Nodwch yn y tiwtorial yma defnyddiwn y geiriau ‘cyfeiriadur’ (directory) a ‘ffolder’ i olygu’r un peth. Mewn gwirionedd cyfeiriaduron yw popeth, ond weithiau mae’r cysyniad o ‘ffolder’ yn gweithio’n well er mwyn cynyddu dealltwriaeth.


1. Ble ydyn ni?

Yn gyntaf gallwn wirio lle ar y cyfrifiadur ydyn ni ar hyn o bryd gan ddefnyddio cd, sy’n sefyll am “current directory”:

$ cd
C:\Users\palme

Os welwn enw defnyddiwr, mae hwn yn golygu ein bod ni mewn ein cyfeiriadur cartref (home directory).


2. Beth sydd yna?

I weld pa ffeiliau a ffolderi sydd yn y cyfeiriadur yna, defnyddiwn y gorchymyn dir. Bydd hwn yn allbynnu rhestr o’r holl bethau sydd o fewn y cyfeiriadur presennol.

$ dir
17/06/2018  22:09    <DIR>          Contacts
05/07/2018  15:26    <DIR>          Desktop
17/06/2018  22:09    <DIR>          Documents
17/06/2018  22:09    <DIR>          Downloads
17/06/2018  22:09    <DIR>          Favorites
17/06/2018  22:09    <DIR>          Links
17/06/2018  22:09    <DIR>          Music
17/06/2018  22:09    <DIR>          Pictures
17/06/2018  22:09    <DIR>          Videos

Mae’r esiampl uchod yn dangos beth sydd ar fy nghyfrifiadur i, efallai bydd eich cyfrifiadur chi yn edrych yn wahanol. Fe allwn agor GUI (‘Finder’ neu ‘File Browser’) a chymharu bod y rhestr yma yn cyfateb a beth ddangosir yna.


3. Creu ffolder

I greu ffolder neu gyfeiriadur tu fewn ein cyfeiriadur presennol, defnyddiwn y gorchymyn mkdir (“make directory”) wedi’i dilyn gan enw’r ffolder newydd hoffwn greu. Er enghraifft, hoffwn greu ffolder o’r enw dysgu-gorchmynion:

$ mkdir dysgu-gorchmynion

Nawr pan restrwn ni’r pethau sydd o fewn ein cyfeiriadur presennol, gwelwn y ffolder newydd:

$ dir
17/06/2018  22:09    <DIR>          Contacts
05/07/2018  15:26    <DIR>          Desktop
17/06/2018  22:09    <DIR>          Documents
17/06/2018  22:09    <DIR>          Downloads
05/07/2018  15:36    <DIR>          dysgu-gorchmynion
17/06/2018  22:09    <DIR>          Favorites
17/06/2018  22:09    <DIR>          Links
17/06/2018  22:09    <DIR>          Music
17/06/2018  22:09    <DIR>          Pictures
17/06/2018  22:09    <DIR>          Videos

Hefyd gallwn wirio bod y ffolder wedi’i chreu trwy ddefnyddio’r GUI.

Nodwch, wrth greu ffeiliau a ffolderi gan ddefnyddio’r ‘command prompt’, nid ydym fel arfer yn rhoi bylchau yn eu henwau, gan fod bylchau yn dynodi bod gorchymyn neu enw wedi gorffen. (Os oes rhaid defnyddio bylchau, gallwn ddweud wrth y cyfrifiadur eu hanwybyddu trwy ddefnyddio rhoi dyfnodau o gwmpas yr enw, er enghraifft mkdir "dysgu gorchmynion". Bydd rhaid defnyddio’r dyfnodau yma pob tro rydym eisiau defnyddio’r ffeil neu ffolder yna. Ni argymhellir hwn.)


4. Symud i leoliad arall

I symud o’r cyfeiriadur presennol i gyfeiriadur arall, gallwn ddefnyddio’r gorchymyn cd eto, wedi dilyn gan y lleoliad newydd. Y symud i mewn i’r ffolder dysgu-gorchmynion:

$ cd dysgu-gorchmynion

Ac i wirio:

$ cd
C:\Users\palme\dysgu-gorchmynion

Mae hwn yn gweithio oherwydd bod y ffolder dysgu-gorchmynion o fewn y lleoliad presennol. Os ydyn ni eisiau mynd nôl lan i’r cyfeiriadur cartref, gallwn fynd ‘i fyny’ i gyfeiriadur rhiant y lleoliad presennol trwy ddefnyddio dau ddot:

$ cd ..
$ cd
C:\Users\palme

I dangos symudiadau pellach, crëwn dau ffolder arall. Crëwn dysgu-symudiadau yn y cyfeiriadur cartref, a chrëwn lluniau o fewn y ffolder dysgu-gorchmynion. Ceisiwch ddeall a dilyn y gorchmynion isod ar gyfer gwneud hyn:

$ mkdir dysgu-symudiadau
$ cd dysgu-gorchmynion
$ mkdir lluniau

Nawr rydym ni o fewn y ffolder dysgu-gorchmynion ac rydym ni eisiau symud i’r ffolder dysgu-symudiadau. Mae’r gorchymyn isod yn galluogi ni i wneud hwn:

$ cd ..\dysgu-symudiadau

Yn gyntaf mae’r .. yn dweud mynd i fyny i’r cyfeiriadur rhiant, yn unwaith rydym ni yna rydym yn symud i mewn i’r ffolder dysgu-symudiadau.

Yn yr un modd os ydyn ni eisiau mynd i’r ffolder lluniau o fan hyn:

$ cd ..\dysgu-gorchmynion\lluniau

5. Trin ffeiliau

RHYBUDD: Wrth ddefnyddio’r ‘command prompt’ ni fydd rhybudd na chadarnhad yn ymddangos os byddwch yn dileu neu drosysgrifennu unrhyw ffeil! Byddwch yn ofalus!

Er mwyn barhau gyda’r tiwtorial yma, bydd angen rhoi rhyw lun (.jpeg neu tebyg) yn y ffolder ‘lluniau’ a chrëwn yn gynharach. Fe allwch lawrlwytho rhyw lun o’r we, a’i arbed yn y ffolder yma trwy defnyddio’r GUI. I sicrhau eich bod wedi gwneud yn iawn, dylech weld y ffeil wrth ddefnyddio’r gorchymyn dir:

$ cd
C:\Users\palme\dysgu-gorchmynion\lluniau

$ ls
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg

5a. Copïo ffeil

I gopïo ffeil, defnyddiwn y gorchymyn copy. Mae dwy ddadl yn dilyn y gorchymyn yma: cp <enw_ffeil_i_gopio> <enw_neu_leoliad_y_copi>. I greu copi o’r ffeil crwban.jpeg, a galw’r copi yn anifail.jpeg, rhedwch y gorchymyn yma:

$ copy crwban.jpeg anifail.jpeg

Ac i wirio fod y copi wedi’i chreu:

$ dir
05/07/2018  15:44         1,127,118 anifail.jpg
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg

I greu copi a’i rhoi mewn lleoliad gwahanol, gallwn ddefnyddio’r ail ddadl i ddweud lle i roi’r copi. I greu copi o crwban.jpeg a’i rhoi yn y cyfeiriadur rhiant, defnyddiwn:

$ copy crwban.jpeg ..\

Ac i wirio fod y copi wedi’i chreu:

$ dir ..\
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg
05/07/2018  15:47    <DIR>          lluniau

5b. Symud ffeil

Yn union fel copïo ffeil, gallwn symud ffeil trwy ddefnyddio’r gorchymyn move. Symudwn y ffeil anifail.jpeg i’r cyfeiriadur rhiant:

$ move anifail.jpeg ..\

A gwirio ei fod yna:

$ cd ..
$ dir
05/07/2018  15:44         1,127,118 anifail.jpg
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg
05/07/2018  15:47    <DIR>          lluniau

A’i symud yn ôl:

$ move anifail.jpeg lluniau

A gwirio:

$ dir
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg
05/07/2018  15:47    <DIR>          lluniau

$ cd lluniau
$ dir
05/07/2018  15:44         1,127,118 anifail.jpg
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg

Nodwch fod symud ac ailenwi ffeil yr un peth! Os hoffwn ailenwi anifail.jpeg i crwban2.jpeg:

$ move anifail.jpeg crwban2.jpeg

5c. Dileu ffeil

I ddileu ffeil defnyddiwn y gorchymyn del (“delete”) wedi dilyn gan enw’r ffeil i’w ddileu. Mae hyn yn cael gwared ar y ffeil am byth. Nid yw’r ffeil yn mynd i mewn i’r bin ailgylchu!

I ddileu’r ffeil crwban.jpeg:

$ del crwban.jpeg

A gwirio:

$ dir
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban2.jpg

5ch. Copïo a dileu ffolderi

Nid yw’r gorchmynion uchod yn gweithio ar ffolderi neu gyfeiriaduron.

I gopïo neu ddileu ffolder rhaid defnyddio gorchmynion eraill. Llywiwch i’r ffolder dysgu-gorchmynion:

$ cd ..

$ cd
C:\Users\palme\dysgu-gorchmynion

I greu copi o’r ffolder lluniau a’i alw yn lluniau2 defnyddiwn xcopy:

$ xcopy lluniau lluniau2

$ dir
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg
05/07/2018  15:47    <DIR>          lluniau
05/07/2018  15:54    <DIR>          lluniau2

(Efallai bydd cwestiwn yn codi yn gofyn os yw lluniau yn gyfeiriadur neu ffeil.)

I ddileu’r ffolder lluniau defnyddiwn rmdir /s:

$ rmdir /s lluniau

$ dir
05/07/2018  15:44         1,127,118 crwban.jpg
05/07/2018  15:54    <DIR>          lluniau2

Crynodeb ac awgrymiadau

Yn y tiwtorial yma rydyn ni wedi gweld sut i agor y ‘command prompt’ yn systemau Windows. Gwelwn orchmynion ar gyfer:

  • Gweld eich cyfeiriadur presennol (cd)
  • Rhestri beth sydd tu fewn i gyfeiriadur (dir)
  • Creu ffolder (mkdir)
  • Symud o un lleoliad i leoliad arall (cd)
  • Copïo ffeil (copy)
  • Symud neu ailenwi ffeil (move)
  • Dileu ffeil (del)
  • Copïo ffolder (xcopy)
  • Dileu ffolder (rmdir /s)

Y olaf dyma gwpl o awgrymiadau gall cyflymu defnyddio’r gorchmynion yma:

  • Mae rhan fwyaf o offerynnau ‘command prompt’ yn cefnogi cwblhau tab. Mae hwn yn golygu gallwn ddechrau teipio cwpl o lythrennau cyntaf enw ffeil neu ffolder, yna gwasgu tab a fydd yn cwblhau gweddill yr enw.
  • Hefyd gallwn ddefnyddio’r botwm saeth i fyny a saeth i lawr i seiclo trwy unrhyw gorchmynion a defnyddiwyd yn ddiweddar.

Cyfeiriadau

⏪ Blaenorol Nesaf ⏩