⏪ Blaenorol Nesaf ⏩


Mae ‘ymchwil agored’ yn derm mawr sy’n cynnwys holl gysyniadau sicrhau bod gwyddoniaeth a chyllidir gan y cyhoedd ar gael i’r cyhoedd. Golygir hwn fod allbynnau ymchwil ar gael, yn rhad ac am ddim, i unrhyw un sydd eisiau i’w weld. Ond beth a olygir gan ‘allbynnau ymchwil’?

  • Canlyniadau: Papurau mewn cyfnodolion academaidd, llyfrau a chyflwyniadau cynadleddodd. Gall hyn hefyd cynnwys cofnodion blog a chyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

  • Data: Unrhyw ddata a chynhyrchir gan yr ymchwil, neu unrhyw ddata a chasglir er mwyn gallu cynnal yr ymchwil.

  • Methodoleg: Y prosesau, algorithmau, arbrofion, a chod a datblygir a ddefnyddir er mwyn cynhyrchu’r canlyniadau.

Er mwyn glynu at egwyddorau ymchwil agored, rhaid i’r tri pheth yma fod ar gael i’r cyhoedd. Mae’r cyhoedd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr eraill, cydweithwyr, a hyd yn oed gelynion academaidd!

Mae hyn yn bwysig am nifer o resymau:

  • Atebolrwydd: rydym yn atebol i rheini sy’n ein cyllido.
  • Ymddiried: mae gadael i bobl eraill craffu’ch canlyniadau, data a methodoleg yn codi ymddiried yn y gwaith.
  • Adborth: gall ymchwilwyr eraill dadansoddi’n gwaith a chynnig gwelliannau.
  • Credyd ac adnabyddiaeth: heb i bobl eraill gweld y gwaith nad yw’r gwaith wedi’i chwblhau.
  • Tryloywder a gonestrwydd: Mae’r gallu i ddadansoddi pob manylyn y gwaith yn cynyddu dealltwriaeth o beth ddigwyddodd.
  • Ailgynhyrchadwyedd: Heb fynediad i’r data, methodoleg, a’r canlyniadau does dim modd i ymchwilwyr eraill ailgynhyrchu’r gwaith.

Mynediad Agored

Mae’r system cyhoeddi academaidd yn newid. Yn draddodiadol bydd prifysgolion yn talu cyfnodolion academaidd i gyhoeddi’r ymchwil, ac yna bydd rhaid i’r prifysgolion talu’r cyfnodolion academaidd am yr hawl i ddarllen yr ymchwil. Mae’r system yma wrth gwrs yn mynd yn erbyn egwyddorion ymchwil agored.

Hyd yn hyn mae nifer o gyfnodolion yn cynnig opsiwn ‘mynediad agored’ (open access). Mae hwn yn golygu bod erthygl yn rhydd ac am ddim fel gall unrhyw un ei fudduo ohono. Mae hwn yn golygu mwy na just darllen yr erthygl am ddim, gall ei ddefnyddio am pwrpasau masnachol, neu ei rhoi o dan algorithmau cloddio tecst.

Ar hyn o bryd mae dau opsiwn mynediad agored (yn anffodus maent yn costio mwy i’r brifysgol wrth gyhoeddi’r gwaith, ond mae’r budd i’r gymdeithas ehangach llawer mwy!):

  • Mynediad agored aur: Mae’r erthygl ei hun ar gael am ddim o’r eiliad a chyhoeddir.
  • Mynediad agored gwyrdd: Mae angen talu i ddarllen yr erthygl swyddogol, ond ar ôl rhyw gyfnod gwaharddiad mae hawl i’r awdur cyhoeddi copi ei hun o’r erthygl am ddim mewn rhyw gyfeiriadur ar-lein.

Os cyllidir eich gwaith gan Gynghorau Ymchwil y DU (e.e. EPSRC, AHRC, ESRC, MRC, ayyb…) mae’n well ganddynt hwy i chi cyhoeddi o dan fynediad agored aur, ond os peidio rhaid cyhoeddi o dan fynediad agored gwyrdd.


Dewis Offerynnau

Rhan bwysig o sicrhau bod eich methodoleg yn agored yw dewis yr offerynnau byddwch yn defnyddio. Mewn nifer o feysydd mae offer yn ddrud: cemegau, teclynnau, deunyddiau biolegol ac ati. Mae defnyddio offer drud yn rhwystro ailgynhyrchadwyedd yn syth i bobl sydd methu fforddio’r offer. Mae hwn yn broblem fawr, yn enwedig mewn prifysgolion mewn gwledydd tlotach.

Wrth gwrs, mewn nifer o feysydd ni allwn osgoi’r costau yma, er enghraifft cemegau, teclynnau, deunyddiau biolegol ac ati. Ond, wrth ddewis meddalwedd, yn fwy aml neu beidio mae opsiynau sydd yn rhad ac am ddim. Wrth ddewis defnyddio meddalwedd sydd â thrwydded gostus, pan mae opsiwn am ddim i’w gael, rydym yn mynd yn erbyn egwyddorion ymchwil agored, trwy atal ymchwilwyr eraill sydd methu fforddio’r drwydded hynny rhag ailgynhyrchu ac adeiladu ar yr ymchwil yna.

Gallwn fynd yn gam ymhellach: gallwn ddewis meddalwedd ffynhonell-agored. Golygir hyn nid yn unig ei bod yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho a’i ddefnyddio, ond mae unrhyw un yn rhydd i edrych tu fewn i’r cod ar sut maen nhw’n gweithio; a hyd yn oed yn rhydd i newid y meddalwedd.

Mae nifer o fanteision dewis offerynnau ffynhonell-agored:

  • Cynyddu dealltwriaeth yn y fethodoleg a ddefnyddiwn, oherwydd gallwn archwilio’r union weithrediadau ac algorithmau sydd wedi’i chodio.
  • Cynyddu siawns o ailddefnyddio methodoleg, oherwydd rydym yn rhydd i newid ac addasu’r cod i’n problemau unigryw ni.
  • Cynyddu tryloywder a hyder ein methodoleg, oherwydd mae unrhyw un yn rhydd i craffu nid yn unig sut defnyddion ni’r meddalwedd, ond sut mae’r meddalwedd yn gweithio hefyd.
  • Does dim rhwystrau ariannol i’w ddefnydd.

Archifo Cod a Data

Sut ydym yn gwneud ein methodoleg (ein cod) a’n data yn agored i ymchwilwyr eraill? Y ffordd arferol yw i’w rhoi mewn rhyw gyfeiriadur ar-lein a chyhoeddi’r linc. Ar gyfer cod un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd i wneud hwn yw GitHub (fe fydd tiwtorial ar defnyddio GitHub nes ymlaen).

Mae hwn yn syniad da, ond gallwn wella hyn trwy hefyd archifo gwaith. Mae nifer o wasanaethau sy’n galluogi ymchwilwyr i archifo gwaith ar-lein, megis Zenodo a Figshare. Mae’r rhain yn well na defnyddio GitHub yn unig, oherwydd:

  • Mae ganddynt ddigon o le i storio cronfeydd data mawr, delweddau, a ffeiliau eraill fel fideos.
  • Rhoddir DOI i’ch gwaith.

Rhif unigryw parhaol yw DOI (Digital Object Identifier) sy’n galluogi archif o gwaith ar-lein cael ei chanfod, a’i chyfeirio ato. Mae hwn yn sicrhau bod gan yr awduron credyd ar gyfer y gwaith yna.

Unwaith archifir gwaith, ni all y DOI newid (er efallai bydd y linc i’r gwaith newid, bydd trwy’r amser modd ffeindio’r gwaith o’r DOI). Bydd gan bob fersiwn gwahanol o’r gwaith DOI unigryw, felly gall cyfeirio at fersiynau sbesiffig. Yn ogystal â hyn, mae gwasanaethau archifo fel arfer yn addo cadw’r gwaith am byth: er enghraifft mae Zenodo yn storio gwaith ar weinyddion CERN, ac yn addo mudo holl waith y mae’n archifo i wasanaeth arall (heb newid linc y DOI) os yw Zenodo byth yn cau lawr.

Mae archifo yn ffordd o sicrhau bod eich cod a’ch data ar gael, ac yn gyfeiriadwy, am amser hir iawn.


Cyfeiriadau

⏪ Blaenorol Nesaf ⏩