Dechrau Nesaf ⏩


Ailgynhyrchadwyedd yw asgwrn cefn ymchwil.

Mae’n rhan bwysig o’r ‘Dull gwyddonol’; mae’n sicrhau bod ein canlyniadau yn gywir, sicrhau bod ymchwilwyr eraill yn gallu adeiladu ar ben ein gwaith, ac yn cynyddu ymddiried yn y gwaith. Os nad yw darn o ymchwil yn gallu cael ei ailgynhyrchu, dydyn ni ddim yn gwybod os yw’r gwaith yn gywir, yn gredadwy, ac ni allwn ni cymryd y gwaith ymhellach.

Mewn nifer o feysydd mae ailgynhyrchadwyedd naill ai yn anodd neu yn hawdd:

  • Mewn llenyddiaeth mae’r ffynonellau darllen ar gael, a’r ymchwil ei hun yw dadl ysgrifenedig gall ymchwilwyr eraill darllen a dadansoddi yn yr un modd.
  • Mewn athroniaeth gallwn ysgrifennu holl fanylion arbrawf meddwl, felly gall ymchwilwyr eraill dilyn y proses meddwl yn glir a’i adolygu.
  • Yn fathemateg, mae holl ddadleuon prawf theorem wedi’i gyhoeddi, er mwyn i ymchwilwyr eraill ei deall a’i ddefnyddio.
  • Mewn arbrawf cemeg gallwn ysgrifennu holl fanylion y cemegau a’r fethodoleg, a chofnodi’r holl ddata, er mwyn i ymchwilwyr eraill ailgynhyrchu’r arbrawf.
  • Mewn arbrawf seicoleg mae’n anodd ailgynhyrchu’r arbrawf yn union, oherwydd gall amgylchiadau effeithio’r allbwn yn fawr, ond gallwn gofnodi pob manylyn er mwyn helpu ymchwilwyr eraill i’w wneud.

Yn theori, mae ymchwil cyfrifiadurol yn hawdd i’w ailgynhyrchu. Os gallwn ni dweud wrth gyfrifiadur beth i’w wneud unwaith, gallwn ni dweud wrtho beth i’w wneud unwaith to (gan gynhyrchu’r un canlyniadau). Ac felly de ddylai ymchwilwyr eraill gallu dweud wrth ei chyfrifiaduron nhw beth i’w wneud er mwyn cynhyrchu’r un canlyniadau.

Mae’r cwrs yma wedi’i ddylunio er mwyn dysgu’r sgiliau sydd angen er mwyn hwyluso’r broses o gynnal gwaith cyfrifiadurol medrai ymchwilwyr eraill eu hailgynhyrchu.


Beth a olygir gan ‘Ailgynhyrchiadwy’?

Mewn papur gan Benureau a Rougier (cyfeiriad isod), rhoddir diffiniad ar gyfer y pedwar term canlynol:

  • Ail-redeg (Re-run): Rhedeg yr union un cod eto ar unrhyw bwynt yn y dyfodol.
  • Ailadrodd (Repeat): Rhedeg yr union un cod eto ar unrhyw bwynt yn y dyfodol, a chynhyrchu’r union un canlyniadau pob tro.
  • Ailgynhyrchu (Reproduce): Ymchwiliwr arall yn rhedeg yr union un cod (ar gyfrifiadur arall, mewn amgylchedd gwahanol) ar unrhyw bwynt yn y dyfodol, a chynhyrchu’r union un canlyniadau pob tro.
  • Ailddefnyddio (Reuse): Ymchwilwyr eraill yn newid ac addasu’r cod er mwyn ei ddefnyddio. Er enghraifft ar broblem newydd, neu i’w gwella.

Fel arfer, a trwy gydol y cwrs yma, byddwn yn defnyddio’r term ailgynhyrchu i olygu pob un o’r pedwar term uchod.


Cynnwys

Bydd y cwrs yma yn edrych ar y pynciau canlynol:

  • Ymchwil agored (, )
  • Sgiliau awtomeiddio (, )
  • Ymarferion codio da (, )
  • Cyfathrebu gwaith (, )
  • Rheolaeth fersiwn a cydweithio (, , , )
  • Ysgrifennu meddalwedd ()

Meddalwedd

Ar gyfer y cwrs hwn bydd angen y meddalwedd canlynol:


Cyfeiriadau

  • “Re-run, Repeat, Reproduce, Reuse, Replicate: Transforming Code into Scientific Contributions”, Fabien C. Y. Benureau ac Nicolas P. Rougier,

    https://arxiv.org/pdf/1708.08205.pdf

Dechrau Nesaf ⏩