⏪ Blaenorol Nesaf ⏩


Gwelwn yn y tiwtorial blaenorol bod LaTeX yn ddefnyddiol iawn ar gyfer creu dogfennau ysgrifenedig sy’n edrych yn broffesiynol iawn. Un o gryfderau mwyaf LaTeX yw’r gallu i strwythuro ffynonellau’r ddogfen mewn ffordd ystyrlon. Y peth sy’n galluogi hyn yw’r gallu i alw un ddogfen o’r llall.

Crëwch gyfeiriadur o’r enw tiwrorial-latex, a thu fewn y cyfeiriadur yma crëwch cyfeiriadur arall o’r enw tex. Yn y cyfeiriadur tex crëwch ddogfen o’r enw pennod-1.tex:

Byddwn yn archwilio symiau cyfanrifau.

Yn y cyfeiriadur uchaf crëwch ddogfen o’r enw prif.tex:

\documentclass{article}

\title{Swm cyfanrifau}

\begin{document}
    \maketitle
    \input{tex/pennod-1.tex}
\end{document}

Fe ddylach eich cyfeirnod edrych fe hyn:

tiwtorial-latex
|    prif.tex
|----tex/
     | pennod-1.tex

Nawr pan rydym ni o fewn y cyfeiriadur uchaf tiwtorial-latex, gallwn adeiladu’r ddogfen prif.tex, a gwelwn bydd cynnwys y ddogfen tex/pennod-1.tex wedi cynnwys yn y ddogfen.

pdflatex prif.tex

Cynnwys allbwn ymchwil

Os oes gennych allbwn ymchwil a chafodd eu creu gan feddalwedd:

  • Rhifau sbesiffig
  • Hafaliadau cymhleth
  • Tablau data
  • Plotiau

mae’n hawdd iawn gwneud camgymeriadau trwy ysgrifennu’r rhain gyda llaw i mewn i’r dogfen LaTeX. Mae hefyd yn hawdd iawn i’r allbynnau yma mynd “out-of-date” wrth i’r ymchwil mynd yn ei flaen. Ymarferion gorau yw allbynnu’r rhain yn syth o’ch meddalwedd yn uniongyrchol i ffeil a bydd yn cael ei gynnwys yn y ddogfen LaTeX.

Er enghraifft, os oes gennym ffeil Python sy’n cynnwys cod i gyfrifo swm y 100 rhif cyntaf, gallwn allbynnu’r canlyniad i ffeil cyfanswm_100_cyntaf.tex:

cyfanswm = 0
for i in range(101):
    cyfanswm += i

with open('tex/cyfanswm_100_cyntaf.tex', 'w') as f:
    f.write(cyfanswm)

Nawr o fewn ein ffeil pennod-1.tex gallwn fewnbynnu’r allbwn yn uniongyrchol, sy’n osgoi unrhyw gamgymeriadau ac yn sicrhau bod y canlyniadau yn cyfateb a’r cod diweddaraf:

Byddwn yn archwilio symiau cyfanrifau.

Swm y 100 cyfanrif cyntaf yw \input{cyfanswm_100_cyntaf.tex}.

Ar gyfer Python (bydd gan ieithoedd eraill pethau tebyg):

  • I allbynnu tablau, yn llyfrgell ddefnyddiol yw pandas
  • I allbynnu hafaliadau cymhleth, yn llyfrgell ddefnyddiol yw sympy

Mae’r rhain yn allbynnu i mewn i gystrawen LaTeX yn uniongyrchol!


Cyfeiriadau

⏪ Blaenorol Nesaf ⏩