3. Sgiliau Awtomeiddio
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |
Mae awtomeiddio yn gysyniad pwysig iawn mewn ymchwil cyfrifiadurol am nifer o rhesymau:
- Mae awtomeiddio llifoedd gwaith yn osgoi camgymeriadau dynol.
- Mae awtomeiddio llifoedd gwaith yn helpu ailadrodd llifoedd gwaith, ac felly ailgynhyrchu ymchwil.
- Rhan bwysig o awtomeiddio gwaith yw deall eich methodoleg yn ddigon da er mwyn ysgrifennu’r gorchmynion awtomeiddio; felly mae’n cynyddu dealltwriaeth yn y fethodoleg.
- Mae’r gorchmynion awtomeiddio, os yw wedi’u hysgrifennu’n dda, yn gallu ymddwyn fel y modd o gyfathrebu’r fethodoleg; yn cynyddu cywirdeb y cyfathrebiad.
- Mae awtomeiddio gwaith yn cyflymu amser prosesu’r gwaith.
Edrychwn ar sawl ffordd o awtomeiddio gwaith yn y cwrs yma:
- Awtomeiddio prosesau sy’n ymwneud a ffeiliau a ffolderau ar y cyfrifiadur: defnyddiwn y Command Line ar systemau -nix, a’r Command Prompt ar systemau Windows.
- Awtomeiddio methodoleg a thriniaeth data: defnyddio iaith rhaglenni. Edrychwn ar Python yn y cwrs yma.
- Awtomeiddio cyfathrebu canlyniadau trwy allbynnu canlyniadau yn syth i’r ddogfen ysgrifenedig.
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |