⏪ Blaenorol Nesaf ⏩


Ymwadiad: Bwriad y tudalen yma yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd trwyddedau meddalwedd a’r gwahanol fathau o drwyddedau. Nid yw wedi’i ysgrifennu gan gyfreithwyr ac nid yw’n cyngor cyfreithiol.

Fel ymchwilwyr rydym ni eisiau hybu cydweithio, ac efallai gall y meddalwedd rydych chi wedi ysgrifennu bod yn ddefnyddiol i ymchwilwyr eraill. Ond gan eich bod chi wedi’i ysgrifennu, rydych chi’n haeddu clod a chydnabyddiaeth, a fydd yn helpu eich gyrfa a’ch enw da. Mae trwydded yn set o amodau sy’n rhoi defnyddwyr eich meddalwedd hawliau penodol i ddefnyddio, copïo, newid, ac efallai ailddosbarthu eich cod neu gynnwys eich meddalwedd. Mae hefyd yn honni taw chi yw awdur y gwaith.

Heb drwydded ar eich meddalwedd, mae’r cod i bob pwrpas yn annefnyddiol i bawb, a bydd defnyddwyr potensial yn troi i ddefnyddio meddalwedd arall sy’n rhoi hawl diamwys ar ei ddefnydd.

Mae pob trwydded ffynhonnell agored yn rhoi’r hawl i ddefnyddwyr eich meddalwedd edrych ar y cod a’i newid, os maent yn rhoi credyd i’r awdur gwreiddiol. Fel arfer wrth ddewis trwydded mae tri chwestiwn i ofyn:

  1. Ydych chi’n poeni am sut dosbarthir unrhyw newidiadau i’ch cod?
  2. Ydych chi neu’ch sefydliad yn berchen ar unrhyw batentau meddalwedd?
  3. Ydych chi’n poeni am y ffordd y soniwyd am eich enw neu beidio pan ddefnyddir eich cod?

Cyn mynd ati i roi trwydded ar eich cod, gwiriwch bolisi eiddo deallusol eich sefydliad.


Dewis Trwydded

Mae yna nifer fawr o drwyddedau i ddewis ohonynt, rhestrir tri o’r rhai mwyaf poblogaidd fan hyn:

  • Y Trwydded MIT

    Trwydded oddefol, fyr a syml. Yr unig amodau yw bod angen cadw hawlfraint copi o’r drwydded gyda’r meddalwedd. Fe all dosbarthu darnau o waith mwy a ddefnyddir y meddalwedd yma, a newidiadau i’r meddalwedd, o dan amodau gwahanol heb y god ffynhonnell.

    Yn gryno, ei hawliau, amodau, a’i chyfyngiadau:

    • Caniatáu defnydd masnachol
    • Caniatáu ailddosbarthu’r meddalwedd
    • Caniatáu newid y meddalwedd
    • Caniatáu defnydd preifat
    • Rhaid cadw’r drwydded a hawlfraint gyda’r meddalwedd
    • Nid oes gan yr awduron unrhyw atebolrwydd
    • Nid yw’n rhoi unrhyw warant

    Awgrymir y trwydded yma os ydych eisiau rhywbeth syml a goddefol.

  • Trwydded Apache 2.0

    Trwydded oddefol a’i phrif amodau yw’r angen i gadw’r hawlfraint a’r drwydded gyda’r meddalwedd. Rhoddir pob hawl patent i’r defnyddwyr. Fe all dosbarthu darnau o waith mwy a ddefnyddir y meddalwedd yma, a newidiadau i’r meddalwedd, o dan amodau gwahanol heb y god ffynhonnell.

    Yn gryno, ei hawliau, amodau, a’i chyfyngiadau:

    • Caniatáu defnydd masnachol
    • Caniatáu ailddosbarthu’r meddalwedd
    • Caniatáu newid y meddalwedd
    • Caniatáu defnydd preifat
    • Caniatáu defnydd a hawliau patent
    • Rhaid cadw’r drwydded a hawlfraint gyda’r meddalwedd
    • Rhaid cadw dogfen o holl newidiadau i’r cod
    • Nid oes gan yr awduron unrhyw atebolrwydd
    • Nid yw’n rhoi unrhyw warant
    • Nid yw’n rhoi unrhyw hawliau nod masnach (trademark)

    Awgrymir y drwydded yma os ydych yn poeni am batentau.

  • GNU GPLv3

    Mae gan y drwydded yma hawliau haelfraint cryf, gyda’r amod o sicrhâi bod yr holl god ffynhonnell ar gael, a bod gan unrhyw newidiadau neu ddarnau o waith mwy yr union un drwydded. Mae angen gadw’r hawlfraint a’r drwydded gyda’r meddalwedd, a rhoddir pob hawl patent i’r defnyddwyr.

    Yn gryno, ei hawliau, amodau, a’i chyfyngiadau:

    • Caniatáu defnydd masnachol
    • Caniatáu ailddosbarthu’r meddalwedd
    • Caniatáu newid y meddalwedd
    • Caniatáu defnydd preifat
    • Caniatáu defnydd a hawliau patent
    • Rhaid bod y cod ffynhonnell ar gael wrth ddosbarthu’r meddalwedd
    • Rhaid cadw’r drwydded a hawlfraint gyda’r meddalwedd
    • Rhaid cadw dogfen o holl newidiadau i’r cod
    • Rhaid i unrhyw newidiadau, neu ddarnau o waith mwy a ddefnyddir y meddalwedd, cael yr union un drwydded
    • Nid oes gan yr awduron unrhyw atebolrwydd
    • Nid yw’n rhoi unrhyw warant

    Awgrymir y drwydded yma os ydych yn poeni rhannu gwelliannau.


Creu Trwydded

I greu trwydded ar eich meddalwedd, crëwch ffeil tecst (fel arfer wedi’i enwi LICENSE neu LICENSE.txt) yn y ffolder uchaf eich meddalwedd. Copïwch a gludiwch ysgrifen y drwydded a ddewisir i mewn i’r ffeil yna, gan newid unrhyw enwau neu dyddiadau fel sy’n briodol.

Er enghraifft ysgrifen y drwydded MIT yw:

MIT License

Copyright (c) [year] [fullname]

Permission is hereby granted, free of charge, to any person obtaining a copy
of this software and associated documentation files (the "Software"), to deal
in the Software without restriction, including without limitation the rights
to use, copy, modify, merge, publish, distribute, sublicense, and/or sell
copies of the Software, and to permit persons to whom the Software is
furnished to do so, subject to the following conditions:

The above copyright notice and this permission notice shall be included in all
copies or substantial portions of the Software.

THE SOFTWARE IS PROVIDED "AS IS", WITHOUT WARRANTY OF ANY KIND, EXPRESS OR
IMPLIED, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO THE WARRANTIES OF MERCHANTABILITY,
FITNESS FOR A PARTICULAR PURPOSE AND NONINFRINGEMENT. IN NO EVENT SHALL THE
AUTHORS OR COPYRIGHT HOLDERS BE LIABLE FOR ANY CLAIM, DAMAGES OR OTHER
LIABILITY, WHETHER IN AN ACTION OF CONTRACT, TORT OR OTHERWISE, ARISING FROM,
OUT OF OR IN CONNECTION WITH THE SOFTWARE OR THE USE OR OTHER DEALINGS IN THE
SOFTWARE.

Cyfeiriadau

⏪ Blaenorol Nesaf ⏩