⏪ Blaenorol Nesaf ⏩


Fel crynodeb o’r pethau a ddysgir yn y cwrs yma, dyma wyth awgrym a rhoddir yn y papur “Best Practices for Scientific Computing” gan Wilson et. al. (cyfeiriad isod):

  1. Ysgrifennwch god ar gyfer pobl, nid cyfrifiaduron.
    • Ni ddylai rhaglen gofyn i’r person sy’n ei darllen cofio llawer iawn i ffeithiau yn ei chof ar unwaith.
    • Ysgrifennwch enwau cyson, unigryw, ac ystyrlon.
    • Cadw steil a fformatio’r cod yn gyson.
  2. Gadewch i’r cyfrifiadur gwneud y gwaith.
    • Gofynnwch i’r cyfrifiadur gwneud unrhyw waith ailadroddol.
    • Arbedwch orchmynion diweddar mewn ffeil i’w ail-ddefnyddio.
    • Defnyddiwch offeryn adeiladu i awtomeiddio llifoedd gwaith.
  3. Gwnewch newidiadau graddol.
    • Gweithiwch mewn camau bach, yn rhoi adborth yn aml, a siawns i newid cywiro a newid cyfeiriad y prosiect.
    • Defnyddiwch system rheolaeth fersiwn.
    • Rhowch bopeth a chrëir gyda llaw o dan reolaeth fersiwn.
  4. Peidiwch ailadrodd eich hun (neu bobl eraill).
    • Dylai pob gan ddarn o ddata un cynrychioliad awdurdodol yn y system, ac un yn unig.
    • Modiwlareiddiwch god yn lle copïo a gludo.
    • Ailddefnyddiwch god yn lle ailysgrifennu.
  5. Cynlluniwch ar gyfer camgymeriadau.
    • Ychwanegwch ddatganiadau assert i raglenni i wirio’u gweithrediadau.
    • Defnyddiwch lyfrgell profion awtomatig.
    • Trowch bygs i mewn i achosion prawf.
    • Defnyddiwch datbygiwr symbolaidd.
  6. Ond optimeiddiwch cod ar ôl iddo weithio’n gywir.
    • Defnyddiwch feddalwedd proffilio i adnabod tagfeydd.
    • Ysgrifennwch god mewn iaith lefel-uchaf posib.
  7. Dogfennwch ddylunio a phwrpas, nid mecaneg.
    • Dogfennwch ryngwynebau a rhesymau, nid gweithrediadau.
    • Mae Ailysgrifennu a gwella cod yn well na esbonio sut y mae’n gweithio.
    • Mewnosodwch y ddogfennaeth ar gyfer meddalwedd o fewn y meddalwedd.
  8. Cydweithiwch.
    • Adolygwch god cyn cyfuno.
    • Ysgrifennwch god mewn parau pan rydych yn dod a rhywun newydd mewn i’r prosiect, neu wrth daclo problemau anodd.
    • Defnyddiwch offeryn tracio problemau.

A dyma pum awgrym sut i gynnal ymchwil sydd ddim yn ailgynhyrchiadwy, a rhoddir yn y papur “Top Tips to Make Your Research Irreproducible” gan Chue Hong et. al. (cyfeiriad isod):

  1. Meddwl “Llun Mawr”: Mae gan bobl diddordeb yn y wyddoniaeth, nid y manylion arbrofion diflas, felly peidiwch â’i disgrifio.

  2. Byddwch yn Haniaethol: Mae ffug-god yn syniad arbennig ar gyfer cyfathrebu syniadau yn gloi, wrth roi darllenwyr dim siawns o gwbl o ddeall y gweithrediadau sy’n gwneud iddo weithio.

  3. Byr a Cryno: Bydd unrhyw gyfyngiadau i’ch methodolegau yn amlwg i ddarllenwyr ofalus, felly does dim agen gwastraffu lle yn gwneud nhw’n eglur.

  4. Diffyg Model: Chi yw’r arbenigwr, felly chi sy’n penderfynu pa algorithmau a data i’w ddefnyddio. Os nad yw eich methodoleg yn edrych yn dda ar feincnodau parchus, dylach creu meincnodau eich hun a defnyddio’r rheini (ac yn ddelfrydol peidiwch â’i gyhoeddi).

  5. Peidiwch Rannu: Mae rhannu ond yn gwneud e’n haws i bobl eraill dwyn eich syniadau, deall beth mae’ch cod yn gwneud yn lle beth rydych chi’n dweud mae’n ei wneud, ac yn waeth byth, deall nad yw’ch cod yn gweithio o gwbl.


Cyfeiriadau

⏪ Blaenorol Nesaf ⏩