⏪ Blaenorol Nesaf ⏩


Yn union fel darllen papurau ymchwil neu llyrfrau, mae defnydd meddalwedd yn cyfraniad bwysig i’r broses ymchwil. I dangos, profi, cadarnhau a cydnabod ffynhonellau cyfraniadau i ymchwil rydym yn dyfynu a cyfeirio at cyfeiriadau mewn llyfryddiaeth. Nid yw meddalwedd yn wahanol.

Rhaid cydnabod gwaith unrhyw ymchwiliwr neu rhaglennwr sydd wedi cyfrannu at eich gwaith, felly rhaid cyfeirio at meddalwedd yn iawn, ar yr un lefel o bwysigrwydd â cyfnodolyn neu llyfr. Mae hwn yn rhoi meddalwedd ar yr un lefel o cyflawniad a bri â moddau traddodiadol o gwneud ymchwil, papurau. Mae codi lefel canfyddedig creu meddalwedd a rhoi credyd llawn i’w ddatblygwyr yn codi proffil ymchwilwyr sy’n ysgrifennu meddalwedd, ac yn ei tro yn codi ansawdd meddalwedd ymchwil ar gyfer pob ymchwiliwr (yn union fel mae rhoi credyd i awduron papurau ymchwil yn ei wneud).

Mae cyfeirio at y meddalwedd a ddefnyddwyd mewn darn o waith hefyd yn hanfodol ar gyfer ailgynhyrchadwyedd gwaith: ni all ymchwilwyr arall ailgynhyrchu’r gwaith os nad ydynt yn gwybod union pa meddalwedd a ddefnyddwyd.

I sicrhai bod ein meddalwedd ni yn cyfeiriadwy (citable), mae yna cwpl o pethau allwn rhaid i ni meddwl amdanynt:

  1. Credyd: Dylai cyfeiriadau meddalwedd rhoi credyd ysgolheigaidd, a adnabyddiaeth cyfreithol i awduron a chyfranwyr i’r meddalwedd.

  2. Adnabyddiaeth unigryw: Dylai cyfeiriadau meddalwedd bod yn ffordd o adbabod meddalweddau unigryw, sydd â chydnabyddiaeth gan y cymuned academaidd.

  3. Dyfalbarhad: Dylai cyfeiriadau meddalwedd para, efallai am cyfnod o amser ar ôl i cyfnod bywyd y meddalwedd ei hun gorffen, fel bod y cyfeiriadau yma yn dogfennau hanesyddol defnyddiol.

  4. Hygyrchedd: Dylai cyfeiriadau meddalwedd hwylso mynediad i’r meddalwedd ei hun, a’i ddogfennaeth, data, metadata ac unrhyw deunyddiau defnyddiol eraill.

  5. Penodoldeb: Dylai cyfeiriadau meddalwedd cyfeirio at fersiynnau penodol o’r meddalwedd.


Sut i wneud meddalwedd yn cyfeiriadwy

I sicrhau bod cyfeiriadau meddalwedd yn unigryw, a bod ganddo dyfalbarhad, hygyrchedd a phenodoldeb, rhaid archifo‘r meddalwedd.

Mae archifo meddalwedd yn gwneud cwpl o bethau:

  • Rhoi DOI (“Digital Object Identifier”) i’r fersiwn penodol yma o’r meddalwedd. DOIau yw asgwrn cefn y system credyd academaidd, mae gan pob papur digidol arlein DOI unigryw i fedru cyfeirio atynt, felly dylai fod gan pob darn o meddalwedd DOI hefyd.
  • Cadw’r gwaith mewn storfa arlein cyhoeddus. Mae hwn yn sicrhau gall ymchwilwyr eraill cael gafael ar y meddalwedd penodol hyn, ac nid oes posibilrwydd o’r meddalwedd diflannu ar unrhyw pwynt yn y dyfodol.
  • Cadw trac ar fersiynnau gwahanol y meddalwedd (os defnyddir gyda systemmau rheolaeth fersiwn fel Git a GitHub).

Storfeudd poblogaidd sy’n gwneud hyn yw Zenodo a Figshare.

Unwaith bod y meddalwedd wedi’i archifo (ac, trwy defnyddio systemmau rheolaeth fersiwn, mae pob fersiwn gorffenol wedi’u archifo a bydd pob fersiwn dyfodol yn cael eu archifo), rhaid bod ffordd o gyfarthrebu i defnyddwyr y meddalwedd i’w cyfeirio ato.

Mae nifer o ffyrd o gwneud hyn, rhai ffyrdd poblogaidd:

  • Ysgrifennu papur academaidd am y meddalwedd sy’n cynnwys ei holl wybodaeth DOI, a gofyn i defnyddwyr cyfeirio at y papur yma pan ddefnyddir y meddalwedd. (Rhai cyfnodolion sy’n arbenigo mewn hwn yw JOSS a JORS, ond mae cyfnodolion traddodiadol hefyd yn derbyn papur o’r natur yma.)
  • Cyfarthrebu ar wefan y meddalwedd (dogfennaeth y meddalwedd, neu README yn sorfa’r meddalwedd) yr union cyfeiriad rydych eisiau i defnyddwyr ei ddefnyddio (e.e. trwy rhoi’r union tecst BibTex i copïo a gludo).
  • Ychwanegu ffeil tecst CITATION o fewn y meddalwedd ei hun. Mae nifer o ffyrdd o ysgrifennu un o rhaid, un strwythurau poblogaidd yw CFF. Mae gan yr iaith R ffwythiant i ddarllen y ffeiliau yma: citation()!

Cyfeiriadau

⏪ Blaenorol Nesaf ⏩