18. Ysgrifennu Meddalwedd - Trwyddedau
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |
Ymwadiad: Bwriad y tudalen yma yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd trwyddedau meddalwedd a’r gwahanol fathau o drwyddedau. Nid yw wedi’i ysgrifennu gan gyfreithwyr ac nid yw’n cyngor cyfreithiol.
Fel ymchwilwyr rydym ni eisiau hybu cydweithio, ac efallai gall y meddalwedd rydych chi wedi ysgrifennu bod yn ddefnyddiol i ymchwilwyr eraill. Ond gan eich bod chi wedi’i ysgrifennu, rydych chi’n haeddu clod a chydnabyddiaeth, a fydd yn helpu eich gyrfa a’ch enw da. Mae trwydded yn set o amodau sy’n rhoi defnyddwyr eich meddalwedd hawliau penodol i ddefnyddio, copïo, newid, ac efallai ailddosbarthu eich cod neu gynnwys eich meddalwedd. Mae hefyd yn honni taw chi yw awdur y gwaith.
Heb drwydded ar eich meddalwedd, mae’r cod i bob pwrpas yn annefnyddiol i bawb, a bydd defnyddwyr potensial yn troi i ddefnyddio meddalwedd arall sy’n rhoi hawl diamwys ar ei ddefnydd.
Mae pob trwydded ffynhonnell agored yn rhoi’r hawl i ddefnyddwyr eich meddalwedd edrych ar y cod a’i newid, os maent yn rhoi credyd i’r awdur gwreiddiol. Fel arfer wrth ddewis trwydded mae tri chwestiwn i ofyn:
- Ydych chi’n poeni am sut dosbarthir unrhyw newidiadau i’ch cod?
- Ydych chi neu’ch sefydliad yn berchen ar unrhyw batentau meddalwedd?
- Ydych chi’n poeni am y ffordd y soniwyd am eich enw neu beidio pan ddefnyddir eich cod?
Cyn mynd ati i roi trwydded ar eich cod, gwiriwch bolisi eiddo deallusol eich sefydliad.
Dewis Trwydded
Mae yna nifer fawr o drwyddedau i ddewis ohonynt, rhestrir tri o’r rhai mwyaf poblogaidd fan hyn:
-
Trwydded oddefol, fyr a syml. Yr unig amodau yw bod angen cadw hawlfraint copi o’r drwydded gyda’r meddalwedd. Fe all dosbarthu darnau o waith mwy a ddefnyddir y meddalwedd yma, a newidiadau i’r meddalwedd, o dan amodau gwahanol heb y god ffynhonnell.
Yn gryno, ei hawliau, amodau, a’i chyfyngiadau:
- Caniatáu defnydd masnachol
- Caniatáu ailddosbarthu’r meddalwedd
- Caniatáu newid y meddalwedd
- Caniatáu defnydd preifat
- Rhaid cadw’r drwydded a hawlfraint gyda’r meddalwedd
- Nid oes gan yr awduron unrhyw atebolrwydd
- Nid yw’n rhoi unrhyw warant
Awgrymir y trwydded yma os ydych eisiau rhywbeth syml a goddefol.
-
Trwydded oddefol a’i phrif amodau yw’r angen i gadw’r hawlfraint a’r drwydded gyda’r meddalwedd. Rhoddir pob hawl patent i’r defnyddwyr. Fe all dosbarthu darnau o waith mwy a ddefnyddir y meddalwedd yma, a newidiadau i’r meddalwedd, o dan amodau gwahanol heb y god ffynhonnell.
Yn gryno, ei hawliau, amodau, a’i chyfyngiadau:
- Caniatáu defnydd masnachol
- Caniatáu ailddosbarthu’r meddalwedd
- Caniatáu newid y meddalwedd
- Caniatáu defnydd preifat
- Caniatáu defnydd a hawliau patent
- Rhaid cadw’r drwydded a hawlfraint gyda’r meddalwedd
- Rhaid cadw dogfen o holl newidiadau i’r cod
- Nid oes gan yr awduron unrhyw atebolrwydd
- Nid yw’n rhoi unrhyw warant
- Nid yw’n rhoi unrhyw hawliau nod masnach (trademark)
Awgrymir y drwydded yma os ydych yn poeni am batentau.
-
Mae gan y drwydded yma hawliau haelfraint cryf, gyda’r amod o sicrhâi bod yr holl god ffynhonnell ar gael, a bod gan unrhyw newidiadau neu ddarnau o waith mwy yr union un drwydded. Mae angen gadw’r hawlfraint a’r drwydded gyda’r meddalwedd, a rhoddir pob hawl patent i’r defnyddwyr.
Yn gryno, ei hawliau, amodau, a’i chyfyngiadau:
- Caniatáu defnydd masnachol
- Caniatáu ailddosbarthu’r meddalwedd
- Caniatáu newid y meddalwedd
- Caniatáu defnydd preifat
- Caniatáu defnydd a hawliau patent
- Rhaid bod y cod ffynhonnell ar gael wrth ddosbarthu’r meddalwedd
- Rhaid cadw’r drwydded a hawlfraint gyda’r meddalwedd
- Rhaid cadw dogfen o holl newidiadau i’r cod
- Rhaid i unrhyw newidiadau, neu ddarnau o waith mwy a ddefnyddir y meddalwedd, cael yr union un drwydded
- Nid oes gan yr awduron unrhyw atebolrwydd
- Nid yw’n rhoi unrhyw warant
Awgrymir y drwydded yma os ydych yn poeni rhannu gwelliannau.
Creu Trwydded
I greu trwydded ar eich meddalwedd, crëwch ffeil tecst (fel arfer wedi’i enwi
LICENSE
neu LICENSE.txt
) yn y ffolder uchaf eich meddalwedd.
Copïwch a gludiwch ysgrifen y drwydded a ddewisir i mewn i’r ffeil yna, gan
newid unrhyw enwau neu dyddiadau fel sy’n briodol.
Er enghraifft ysgrifen y drwydded MIT yw:
Cyfeiriadau
-
“Choosing an open-source licence”, The Software Sustainability Institute,
https://www.software.ac.uk/resources/guides/adopting-open-source-licence
-
“Choose an open source license”, GitHub,
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |