12. Cyfathrebu - Awtomeiddio Canlyniadau
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |
Gwelwn yn y tiwtorial blaenorol bod LaTeX yn ddefnyddiol iawn ar gyfer creu dogfennau ysgrifenedig sy’n edrych yn broffesiynol iawn. Un o gryfderau mwyaf LaTeX yw’r gallu i strwythuro ffynonellau’r ddogfen mewn ffordd ystyrlon. Y peth sy’n galluogi hyn yw’r gallu i alw un ddogfen o’r llall.
Crëwch gyfeiriadur o’r enw tiwrorial-latex
, a thu fewn y cyfeiriadur yma crëwch
cyfeiriadur arall o’r enw tex
.
Yn y cyfeiriadur tex
crëwch ddogfen o’r enw pennod-1.tex
:
Byddwn yn archwilio symiau cyfanrifau.
Yn y cyfeiriadur uchaf crëwch ddogfen o’r enw prif.tex
:
\documentclass{article}
\title{Swm cyfanrifau}
\begin{document}
\maketitle
\input{tex/pennod-1.tex}
\end{document}
Fe ddylach eich cyfeirnod edrych fe hyn:
tiwtorial-latex
| prif.tex
|----tex/
| pennod-1.tex
Nawr pan rydym ni o fewn y cyfeiriadur uchaf tiwtorial-latex
, gallwn
adeiladu’r ddogfen prif.tex
, a gwelwn bydd cynnwys y ddogfen
tex/pennod-1.tex
wedi cynnwys yn y ddogfen.
pdflatex prif.tex
Cynnwys allbwn ymchwil
Os oes gennych allbwn ymchwil a chafodd eu creu gan feddalwedd:
- Rhifau sbesiffig
- Hafaliadau cymhleth
- Tablau data
- Plotiau
mae’n hawdd iawn gwneud camgymeriadau trwy ysgrifennu’r rhain gyda llaw i mewn i’r dogfen LaTeX. Mae hefyd yn hawdd iawn i’r allbynnau yma mynd “out-of-date” wrth i’r ymchwil mynd yn ei flaen. Ymarferion gorau yw allbynnu’r rhain yn syth o’ch meddalwedd yn uniongyrchol i ffeil a bydd yn cael ei gynnwys yn y ddogfen LaTeX.
Er enghraifft, os oes gennym ffeil Python sy’n cynnwys cod i gyfrifo swm y 100
rhif cyntaf, gallwn allbynnu’r canlyniad i ffeil cyfanswm_100_cyntaf.tex
:
cyfanswm = 0
for i in range(101):
cyfanswm += i
with open('tex/cyfanswm_100_cyntaf.tex', 'w') as f:
f.write(cyfanswm)
Nawr o fewn ein ffeil pennod-1.tex
gallwn fewnbynnu’r allbwn yn uniongyrchol,
sy’n osgoi unrhyw gamgymeriadau ac yn sicrhau bod y canlyniadau yn cyfateb a’r
cod diweddaraf:
Byddwn yn archwilio symiau cyfanrifau.
Swm y 100 cyfanrif cyntaf yw \input{cyfanswm_100_cyntaf.tex}.
Ar gyfer Python (bydd gan ieithoedd eraill pethau tebyg):
- I allbynnu tablau, yn llyfrgell ddefnyddiol yw pandas
- I allbynnu hafaliadau cymhleth, yn llyfrgell ddefnyddiol yw sympy
Mae’r rhain yn allbynnu i mewn i gystrawen LaTeX yn uniongyrchol!
Cyfeiriadau
-
“Research software development”, Vincent Knight,
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |