5. Sgiliau Awtomeiddio - Y 'Command Prompt' yn Windows
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |
Mae systemau Windows yn defnyddio’r ‘command prompt’ i siarad i’r cyfrifiadur. I fedru gwneud hwn, agorwn y command prompt neu Anaconda prompt. Dyle fe edrych rhywbeth fel hyn (bydd lliwiau ac efallai ysgrifen wahanol gyda chi):
Ar y llinell lle welwn y cyrchwr (cursor), gwelwn ni rhyw ysgrifen (fel arfer
enw ein cyfrifiadur a lle ar y cyfrifiadur ydyn ni ar hyn o bryd), a’r diweddglo
>
.
Dyma le allwn ni teipio gorchmynion i’r cyfrifiadur.
(Yn y tiwtorial yma defnyddiwn y symbol $
yn lle, mae unrhyw god sy’n dilyn y
symbol $
yn cynrychioli cod rydym ni’n ysgrifennu a theipio. Mae unrhyw tecst
nad yw’n dilyn $
yn cynrychioli allbwn y cyfrifiadur.)
Y fath o orchmynion edrychwn arnynt yn y tiwtorial yma yw triniaeth ffolderi a ffeiliau. Hynny yw, awtomeiddio’r pethau byddwch yn gwneud gyda GUI yn ‘Windows Explorer’ neu ‘File Explorer’; creu ffolderi newydd, copïo ffeiliau, ail-enwi a symud ffeiliau, ac yn y blaen.
I redeg gorchymyn:
- Teipwich y gorchymyn
- Gwasgwch ‘Enter’
Nodwch yn y tiwtorial yma defnyddiwn y geiriau ‘cyfeiriadur’ (directory) a ‘ffolder’ i olygu’r un peth. Mewn gwirionedd cyfeiriaduron yw popeth, ond weithiau mae’r cysyniad o ‘ffolder’ yn gweithio’n well er mwyn cynyddu dealltwriaeth.
1. Ble ydyn ni?
Yn gyntaf gallwn wirio lle ar y cyfrifiadur ydyn ni ar hyn o bryd gan
ddefnyddio cd
, sy’n sefyll am “current directory”:
Os welwn enw defnyddiwr, mae hwn yn golygu ein bod ni mewn ein cyfeiriadur cartref (home directory).
2. Beth sydd yna?
I weld pa ffeiliau a ffolderi sydd yn y cyfeiriadur yna, defnyddiwn y gorchymyn
dir
.
Bydd hwn yn allbynnu rhestr o’r holl bethau sydd o fewn y cyfeiriadur presennol.
Mae’r esiampl uchod yn dangos beth sydd ar fy nghyfrifiadur i, efallai bydd eich cyfrifiadur chi yn edrych yn wahanol. Fe allwn agor GUI (‘Finder’ neu ‘File Browser’) a chymharu bod y rhestr yma yn cyfateb a beth ddangosir yna.
3. Creu ffolder
I greu ffolder neu gyfeiriadur tu fewn ein cyfeiriadur presennol, defnyddiwn y
gorchymyn mkdir
(“make directory”) wedi’i dilyn gan enw’r ffolder newydd
hoffwn greu.
Er enghraifft, hoffwn greu ffolder o’r enw dysgu-gorchmynion
:
Nawr pan restrwn ni’r pethau sydd o fewn ein cyfeiriadur presennol, gwelwn y ffolder newydd:
Hefyd gallwn wirio bod y ffolder wedi’i chreu trwy ddefnyddio’r GUI.
Nodwch, wrth greu ffeiliau a ffolderi gan ddefnyddio’r ‘command prompt’, nid
ydym fel arfer yn rhoi bylchau yn eu henwau, gan fod bylchau yn dynodi bod
gorchymyn neu enw wedi gorffen.
(Os oes rhaid defnyddio bylchau, gallwn ddweud wrth y cyfrifiadur eu hanwybyddu
trwy ddefnyddio rhoi dyfnodau o gwmpas yr enw, er enghraifft
mkdir "dysgu gorchmynion"
.
Bydd rhaid defnyddio’r dyfnodau yma pob tro rydym eisiau defnyddio’r ffeil neu
ffolder yna. Ni argymhellir hwn.)
4. Symud i leoliad arall
I symud o’r cyfeiriadur presennol i gyfeiriadur arall, gallwn ddefnyddio’r
gorchymyn cd
eto, wedi dilyn gan y lleoliad newydd.
Y symud i mewn i’r ffolder dysgu-gorchmynion
:
Ac i wirio:
Mae hwn yn gweithio oherwydd bod y ffolder dysgu-gorchmynion
o fewn y lleoliad
presennol.
Os ydyn ni eisiau mynd nôl lan i’r cyfeiriadur cartref, gallwn fynd ‘i fyny’ i
gyfeiriadur rhiant y lleoliad presennol trwy ddefnyddio dau ddot:
I dangos symudiadau pellach, crëwn dau ffolder arall.
Crëwn dysgu-symudiadau
yn y cyfeiriadur cartref, a chrëwn lluniau
o fewn y
ffolder dysgu-gorchmynion
.
Ceisiwch ddeall a dilyn y gorchmynion isod ar gyfer gwneud hyn:
Nawr rydym ni o fewn y ffolder dysgu-gorchmynion
ac rydym ni eisiau symud i’r
ffolder dysgu-symudiadau
.
Mae’r gorchymyn isod yn galluogi ni i wneud hwn:
Yn gyntaf mae’r ..
yn dweud mynd i fyny i’r cyfeiriadur rhiant, yn unwaith
rydym ni yna rydym yn symud i mewn i’r ffolder dysgu-symudiadau
.
Yn yr un modd os ydyn ni eisiau mynd i’r ffolder lluniau
o fan hyn:
5. Trin ffeiliau
RHYBUDD: Wrth ddefnyddio’r ‘command prompt’ ni fydd rhybudd na chadarnhad yn ymddangos os byddwch yn dileu neu drosysgrifennu unrhyw ffeil! Byddwch yn ofalus!
Er mwyn barhau gyda’r tiwtorial yma, bydd angen rhoi rhyw lun (.jpeg neu tebyg)
yn y ffolder ‘lluniau’ a chrëwn yn gynharach.
Fe allwch lawrlwytho rhyw lun o’r we, a’i arbed yn y ffolder yma trwy
defnyddio’r GUI.
I sicrhau eich bod wedi gwneud yn iawn, dylech weld y ffeil wrth ddefnyddio’r
gorchymyn dir
:
5a. Copïo ffeil
I gopïo ffeil, defnyddiwn y gorchymyn copy
.
Mae dwy ddadl yn dilyn y gorchymyn yma:
cp <enw_ffeil_i_gopio> <enw_neu_leoliad_y_copi>
.
I greu copi o’r ffeil crwban.jpeg
, a galw’r copi yn anifail.jpeg
, rhedwch y
gorchymyn yma:
Ac i wirio fod y copi wedi’i chreu:
I greu copi a’i rhoi mewn lleoliad gwahanol, gallwn ddefnyddio’r ail ddadl i
ddweud lle i roi’r copi.
I greu copi o crwban.jpeg
a’i rhoi yn y cyfeiriadur rhiant, defnyddiwn:
Ac i wirio fod y copi wedi’i chreu:
5b. Symud ffeil
Yn union fel copïo ffeil, gallwn symud ffeil trwy ddefnyddio’r gorchymyn move
.
Symudwn y ffeil anifail.jpeg
i’r cyfeiriadur rhiant:
A gwirio ei fod yna:
A’i symud yn ôl:
A gwirio:
Nodwch fod symud ac ailenwi ffeil yr un peth!
Os hoffwn ailenwi anifail.jpeg
i crwban2.jpeg
:
5c. Dileu ffeil
I ddileu ffeil defnyddiwn y gorchymyn del
(“delete”) wedi dilyn gan enw’r
ffeil i’w ddileu.
Mae hyn yn cael gwared ar y ffeil am byth.
Nid yw’r ffeil yn mynd i mewn i’r bin ailgylchu!
I ddileu’r ffeil crwban.jpeg
:
A gwirio:
5ch. Copïo a dileu ffolderi
Nid yw’r gorchmynion uchod yn gweithio ar ffolderi neu gyfeiriaduron.
I gopïo neu ddileu ffolder rhaid defnyddio gorchmynion eraill.
Llywiwch i’r ffolder dysgu-gorchmynion
:
I greu copi o’r ffolder lluniau
a’i alw yn lluniau2
defnyddiwn xcopy
:
(Efallai bydd cwestiwn yn codi yn gofyn os yw lluniau
yn gyfeiriadur neu
ffeil.)
I ddileu’r ffolder lluniau
defnyddiwn rmdir /s
:
Crynodeb ac awgrymiadau
Yn y tiwtorial yma rydyn ni wedi gweld sut i agor y ‘command prompt’ yn systemau Windows. Gwelwn orchmynion ar gyfer:
- Gweld eich cyfeiriadur presennol (
cd
) - Rhestri beth sydd tu fewn i gyfeiriadur (
dir
) - Creu ffolder (
mkdir
) - Symud o un lleoliad i leoliad arall (
cd
) - Copïo ffeil (
copy
) - Symud neu ailenwi ffeil (
move
) - Dileu ffeil (
del
) - Copïo ffolder (
xcopy
) - Dileu ffolder (
rmdir /s
)
Y olaf dyma gwpl o awgrymiadau gall cyflymu defnyddio’r gorchmynion yma:
- Mae rhan fwyaf o offerynnau ‘command prompt’ yn cefnogi cwblhau tab. Mae hwn yn golygu gallwn ddechrau teipio cwpl o lythrennau cyntaf enw ffeil neu ffolder, yna gwasgu tab a fydd yn cwblhau gweddill yr enw.
- Hefyd gallwn ddefnyddio’r botwm saeth i fyny a saeth i lawr i seiclo trwy unrhyw gorchmynion a defnyddiwyd yn ddiweddar.
Cyfeiriadau
-
“Research software development”, Vincent Knight,
⏪ Blaenorol | Nesaf ⏩ |